Cwpl sy’n addysgu o fewn traddodiad Aro gTér yr Ysgol Nyingma yw Ngala Nor’dzin Pamo a Ngala ’ö-Dzin Tridral. Maent yn cyplysu ymarfer, dysgu a gofal bugeiliol dros eu prentisiaid gyda bywyd proffesiynol a theuluol.
Roedd y lamas Nor’dzin and ’ö-Dzin eisoes yn astudio Bwdhaeth pan fu iddynt gyfarfod gynta mewn Canolfan Bwdhaidd Tibetaidd yn 1980, ac o gyfnod eu cyfarfyddiad daethant yn ymarferwyr vajrayana ymrwymedig. Dywedodd Ngak’chang Rinpoche a Khandro Déchen wrthynt yn bellach ymlaen bod eu cyfarfyddiad yn uniongyrchol gyfrifol am ysgogi eu hangen am ymrwymiad dyfnach gyda llinach Yeshé Tsogyel ac y byddent o fudd i bobl trwy eu ffordd o fyw.
Yn 1982 daethant yn ddisgyblion i Ngak’chang Rinpoche. Ngala Nor’dzin oedd y gynta o fyfyrwyr Ngak’chang Rinpoche’s i’w ordeinio ganddo i’r ngak’phang sangha yn 1987. Cafodd Ngala ’ö-Dzin ei ordeinio yn fuan wedyn yn 1991. Yn 1985 priododd Ngala Nor’dzin and Ngala ’ö-Dzin mewn seremoni sifil gyda defod bendithio Bwdhaidd gan Ngak’chang Rinpoche yn dilyn yr wythnos wedyn. Yn 1993 dilynasant yn gamau eu Lamas gwreiddiol, Ngak’chang Rinpoche a Khandro Déchen, and daethant yn gwpl dysgu ngak’phang priod. Yn eu perthynas maent yn enghraifft o ddysgeidiaeth y Khandro-pawo nyida mélong gyüd (mKha’ ’gro dPa bo nyi zLa me long rGyud) yn ôl Aro gTér. Mae ganddynt dau fab, Daniel,(Yeshé Norbu) a Richard, (’ö-Tak Dorje Rolpa’i Düd’dül) deunaw ac un ar bymtheg mlwydd oed (2005). Mae gan Ngala Nor’dzin a Ngala ’ö-Dzin brentisiaid ym Mhrydain, Ffrainc a’r Almaen.
Yn y blynyddoedd cynnar gweithiodd Ngala Nor’dzin a Ngala ’ö-Dzin yn glos gyda Ngak’chang Rinpoche i sefydlu’r gyfundrefn Sang-ngak-chö-dzong, er mwyn darparu cyd-destun cydlynol i ddysgeidiaeth Nyingma yn De Cymru. Yn gyntaf cynhyrchant gylchrediad preifat o lyfrynnau o drosiad o ddysgeidiaeth Ngak’chang Rinpoche ynglŷn â’r Pedwar Gwirionedd Bonheddig a’r Llwybr Wythblyg, Lloches, a Bodhicitta. Yn bellach ymlaen, wrth i ddiddordeb dyfu, aethant at Ngak’chang Rinpoche gyda’r syniad o ysgrifennu llyfrau cyflawn i’w cyhoeddi gyda Element Books. Dyma oedd y llyfrau: ‘Rainbow of Liberated Energy’ (a ailgyhoeddwyd yn ddiweddar fel ‘Spectrum of Ecstacy’) a ‘Journey into Vastness’ (yn awr wedi ei ailgyhoeddi fel ‘Roaring Silence’). Ngala Nor’dzin, Ngala ’ö-Dzin a Khandro Déchen oedd yn gyfrifol am godi’r cwestiynau a wnaeth y llyfrau mor ddarllenadwy.
Dywed Ngak’chang Rinpoche:
Heb Ngala Nor’dzin, Ngala ’ö-Dzin, a Khandro Déchen byddai wedi bod yn anodd gwybod sut i gyflwyno deunydd i gynulleidfa orllewinol.
Roeddwn i wedi bwrw cymaint o fy mywyd mewn cyd-destun vajrayana bod angen i mi gael fy nghyflwyno i gwestiynau am fy niwylliant fy hun.
Cyflwynodd Ngala Nor’dzin a Ngala ’ö-Dzin gyfoeth o gwestiynu deallus a realistig oedd yn bleser parhaus.
Cododd eu cwestiynau pob amser o’u profiad a’u hawydd gonest i ddeall.
Eu hafiaith diffuant pragmatig, a vajra meddwl syml anogodd fi i gredu y gallai’r athrawiaeth ymsefydlu yn llwyddiannus.
Yn y dyddiau cynnar hynny roedd gennym hamdden i gynnal llawer trafodaeth hir a manwl, ac o’r sgyrsiau gyda nhw y datblygodd llawer o fy null dysgu.
Gwaith Ngala Nor’dzin a Ngala ’ö-Dzin i sefydlu’r elusen DU Sang-ngak-chö-dzong a ddarparodd sylfaen i dyfiant yr Aro sangha ym Mhrydain. Yn 1985 sefydlodd Ngala Nor’dzin a Lama ’ö-Dzin Grŵp Myfyrdod Vajrayana Bwdhaidd Caerdydd. Mae wedi cyfarfod unwaith y mis ers hynny, ac wedi cynnig ffordd i mewn i brofiad ac ymarferiad Bwdhaeth Vajrayana i lawer o ymarferwyr oddi mewn i’r Aro gTér ym Mhrydain. Yn ddiweddar mae’r grŵp yma wedi datblygu yn gyfarfod misol. Mae’n dal i’w gynnal gan Ngala Nor’dzin and Ngala ’ö-Dzin yn eu hystafell cysegr eu hunain, gan gynnig cyfle i ymarfer a chlywed dysgeidiaeth i aelodau o’r cyhoedd ac i’r grŵp prentis.
Dros y deg mlynedd dwetha, maent yn raddol wedi ymddeol o’r gwaith gweinyddu a rheoli, er mwyn canolbwyntio ar ddysgu, ysgrifennu a gweithio gyda’u prentisiaid eu hunain. Maent yn llwyddo i gyfuno ymarfer a bywyd cyffredin. Mae ganddynt doreth o brofiad mewn cynorthwyo pobl gyda phroblemau pob dydd, lle mae straen a phwysau bywyd cyffredin yn troi yn destun ymarfer Tantric. Maent hefyd yn cynnig persbectif gwerthfawr fel rhieni sydd wedi magu teulu yn llwyddiannus gan ddal at eu hymarfer a sefydlu sangha ar yr un pryd.
Dywed Ngak’chang Rinpoche:
Nid oeddwn wedi treulio
llawer o amser gyda Ngala Nor’dzin a Ngala ’ö-Dzin cyn sylweddoli
eu bod yn unigryw.
Roedd hi’n amlwg i mi bod ganddynt egni aruthrol
ac ymroddiad sicr i’r dysgeidiaethau. Ni chafodd lefel eu diddordeb
erioed ei gamliwio gan syniadau tanbaid na gwallgofrwydd esoterig.
Roeddynt yn garedig a naturiol iawn, ac roeddwn i yn gwerthfawrogi
hynny. Sylweddolwn os dyma oedd dechrau fy mywyd fel athro, yna roedd
yn ddechrau da iawn. Dyma oedd diwedd fy mywyd fel crwydryn, a dechrau
cyfrifoldeb llawen. Roedd y rhain yn ddau o’r hil dynol y medrwn i
ddibynnu arnynt yn gyfan gwbl – heb y math yma o ymddiried llwyr mae
rôl Lama heb argyhoeddiad.